Rhif y ddeiseb: P-05-1023

Teitl y ddeiseb: Cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer biniau ailgylchu a chasglu deunyddiau i’w hailgylchu ym mhob lleoliad addysg yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:

Ar hyn o bryd, mae cynghorau yng Nghymru yn codi tâl ar ysgolion i gasglu gwastraff i’w ailgylchu. O gofio bod eu cyllid blynyddol yn gyfyngedig, mae’n anodd i ysgolion dalu’r gost hon. O ganlyniad, mae llawer iawn o wastraff i’w ailgylchu yn mynd i safleoedd tirlenwi gan nad oes gan ysgolion finiau ailgylchu ac nid yw’r Cyngor yn trefnu i gasglu’r gwastraff hwn.

Ym mis Ebrill 2019, penderfynodd Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd ond, er hynny, nid yw athrawon a dysgwyr yn gallu cyfrannu at leihau eu hallyriadau carbon lle maent yn gweithio neu’n dysgu. Bydd llawer o athrawon yn cymryd deunyddiau o’u hystafelloedd dosbarth i’w hailgylchu gartref, neu bydd Clybiau Eco mewn ysgolion yn casglu gwastraff, ond mae angen cysondeb yn genedlaethol, fel bod ailgylchu’n dod yn arfer gartref ac yn yr ysgol.

Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i ganiatáu i hyn ddigwydd ar hyd a lled y wlad, i ddangos ei bod yn cadw at ei harwyddair, sef ein bod yn wlad fach ag uchelgais fawr.

Mae'n baradocs llwyr ein bod yn dysgu disgyblion i fyw'n fwy cynaliadwy a bod yn fwy ymwybodol o'r amgylchedd, ond yn yr union leoedd maen nhw'n dysgu am y materion hyn, ni allant roi’r hyn y maent yn ei ddysgu ar waith.

Nod cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus yw creu ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd. Dylai fod yn bosibl i bob ysgol ailgylchu deunyddiau fel rhan o fod yn ddinesydd egwyddorol, yn enwedig mewn gwlad sy'n ail yn y byd am ailgylchu gwastraff cartref.

Rhaid i ailgylchu ym mhob ysgol fod yn rhan annatod o nod Llywodraeth Cymru i fod yn wlad ddiwastraff erbyn 2050 a rhaid iddynt fod yn rhan o Gynllun Carbon Isel Cymru.

Rhaid gwneud mwy na dim ond hyrwyddo cyfrifoldeb personol a rhaid galluogi a grymuso ein pobl ifanc i weithredu a gwneud dewisiadau er gwell a rhaid i addysgwyr a phawb sy'n gweithio mewn ysgolion fedru gweithredu’n unol â’r negeseuon y maent yn eu cyflwyno i bobl ifanc. 

 

 

1.  Y cefndir

O dan Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012 mae gan awdurdodau lleol y pŵer i godi tâl am gasglu a gwaredu gwastraff o eiddo annomestig. Mae adeiladau o'r fath yn cynnwys prifysgolion, ysgolion a sefydliadau addysgol eraill. Felly, penderfyniad awdurdodau lleol yw p’un a ddylid codi tâl am gasglu a gwaredu gwastraff o ysgolion. Yr ysgolion sydd i benderfynu a ydynt yn dewis caffael eu gwasanaethau casglu gwastraff gan yr awdurdod lleol neu gan ddarparwr masnachol.

Cyn rheoliadau 2012, roedd yn ofynnol i bob awdurdod lleol gasglu gwastraff o'r mannau hyn pan ofynnwyd amdano, ond ni ellid ond codi tâl am gasglu gwastraff, nid ei waredu. Daeth y newidiadau i rym yn dilyn ymgynghoriad ar y cyd ar y rheoliadau blaenorol ar gyfer gwastraff a reolir ym mis Tachwedd 2010 gan Adran Bwyd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y DU (DEFRA) a Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd.  Roedd y cynigion yn galluogi awdurdodau lleol i godi tâl ar sefydliadau a restrir o dan Atodlen 2 o Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992, am gasglu a gwaredu gwastraff, ac roedd hynny’n cynnwys ysgolion. Cafodd yr ymateb ar y cyd i’r ymgynghoriad gan y llywodraethau ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2012. Roedd yn datgan:

…our proposals to allow local authorities the power to charge educational establishments for their waste disposal received near unanimous support from respondents. As a result, we intend to legislate to treat educational establishments as commercial waste.

2.  Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff ym mis Mehefin 2010. Roedd y strategaeth yn nodi'r dull y byddai Llywodraeth Cymru yn ei gymryd i gyrraedd ei tharged o sicrhau Cymru ddi-wastraff erbyn 2050. Yn ddiweddar, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth economi gylchol newydd, Mwy nag Ailgychu. Fodd bynnag, nid yw'r naill strategaeth na’r llall yn mynd i'r afael yn benodol â chasglu deunyddiau ailgylchu (neu wastraff) gan ysgolion a sefydliadau addysgol eraill.

Ym mis Ebrill 2019, lansiodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn AS, Gronfa Economi Gylchol gwerth £6.5 miliwn i awdurdodau lleol a chyrff a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru. O dan y cynllun hwn, cynigiwyd grantiau o hyd at £500,000 i gyrff a ariennir yn gyhoeddus i addasu eu prosesau ac i drosglwyddo i economi gylchol. Mae llythyr y Gweinidog yn nodi:

Hyd yn hyn, mae £3.7 miliwn o'r arian hwn wedi’i ddyrannu i 34 o brosiectau. Derbyniwyd cyfanswm o 91 cais ar gyfer ail rownd y Gronfa Economi Gylchol, gan gynnwys ceisiadau gan amrywiol ysgolion a phrifysgolion. Mae'r buddion a welwyd ar draws y 34 prosiect sydd wedi elwa hyd yma yn cynnwys; cyfraddau ailgylchu gwell; gwell ansawdd ailgylchu; llai o blastigau untro; arbedion refeniw i awdurdodau lleol yn sgil effeithlonrwydd; ac felly roedd llai o gerbydau ar y lôn yn lleihau allyriadau carbon a llygrydd.

Dywed y Gweinidog fod y ddeiseb yn tynnu sylw at gostau ailgylchu a lle mae'r costau hynny'n syrthio. Cyfeiria’r Gweinidog at waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd ar Gyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd fel rhan o Fil yr Amgylchedd 2019-21 ar lefel y DU. Nod Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd yw sicrhau bod cynhyrchwyr yn ysgwyddo cost gwaredu cynhyrchion y maent yn eu rhoi ar y farchnad, yn unol â'r egwyddor mai’r “llygrwr sy'n talu”. Bydd cynllun Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd yn gwneud cynhyrchwyr yn gyfrifol am y costau net llawn ar gyfer eu gweithgareddau rheoli gwastraff unwaith y bydd y deunydd pacio wedi'i ddefnyddio.  Mae mwy o wybodaeth am Gyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd mewn erthygl ddiweddar ar flog Ymchwil y Senedd ar Fil Amgylchedd y DU. Mae'r llythyr yn nodi y bwriedir cynnal ymgynghoriad ar ddyluniad manwl y cynllun yn 2021.

3.  Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Nid yw mater casglu gwastraff a deunyddiau ailgylchu o ysgolion wedi cael ei drafod yn y Senedd.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.